Ymgynghoriad Cais Codi 1,715 o Dai ym Modelwyddan

Heb brofi angen y tai yn yr ardal na rhoi ystyriaeth fanwl a diduedd i effaith y datblygiad ar yr iaith Gymraeg, mae Cyngor Sir Ddinbych wedi caniatáu i gwmni Barwood Land o Loegr codi dros 1,700 o dai newydd ym mhentref Bodelwyddan.

Mae safle'r datblygiad ar orlifdir ac mae'r cyngor hefyd wedi anwybyddu hanes o lifogydd a phroblemau oherwydd dŵr ar yr A55 yn yr ardal.

Mewn refferendwm yng nghymuned Bodlewyddan, pleidleisiodd 93% yn erbyn y datblygiad. A fuasech yn caniatáu i'r Cyngor Sir gorfodi'r fath datblygiad ar eich cymuned chi?

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi ymestyn y cyfnod ymgynghori ac rydym wedi ei wneud yn hawdd i chi anfon ebost atynt yn gwrthwynebu'r datblygiad. Safwch fyny dros a gyda phobl a chymuned Bodelwyddan a holl gymunedau Sir Ddinbych a Chymru gan anfon yr ebost isod i'r Cyngor.

Rhowch eich manylion isod i anfon yr ebost fel y mae.

Os hoffech ychwanegu a/neu newid testun yr ebost, mae croeso i chi ei gopïo a'i olygu ac yna ei anfon eich hunain at cynllunio@sirddinbych.gov.uk.

Testun : Ymateb i ymgynghoriad cyhoeddus i gais cynllunio Barwood Land i ddatblygiad tai Bodelwyddan
Neges :

Rhif Achos – 40/2013/1585

Hoffwn ymateb i gais cynllunio Barwood Land i adeiladu 1,715 o unedau tai yn ardal Bodelwyddan, Sir Ddinbych.

Yn ystod y cyfnod o lunio Cynllun Datblygu Lleol Cyngor Sir Ddinbych, daeth hi'n amlwg bod y Cyngor yn anwybyddu llais y gymuned leol a'r gymuned ehangach yn erbyn y cynllun i ganiatáu adeiladu miloedd o dai diangen yn yr ardal.

Mae'r Cyngor fwy nac unwaith wedi anwybyddu canlyniad refferendwm a gynhaliwyd yn yr ardal gan drigolion lleol, gyda 93% wedi gwrthwynebu'r datblygiad.

Mae'r Cyngor hefyd wedi anwybyddu canfyddiadau adroddiad asesiad iaith annibynnol a luniwyd ar y cyd rhwng Cymdeithas yr Iaith Gymraeg a'r gymuned leol. Yn ei lle, derbyniwyd canfyddiadau adroddiad asesiad iaith a gomisiynwyd gan Barwood Land eu hunain - y cwmni sydd yn gosod y cais cynllunio ger bron y Cyngor. Mae hyn, yn ein tyb ni, yn codi cwestiynau difrifol am annibyniaeth barn a chanfyddiadau'r adroddiad hwnnw.

Rwyf yn bryderus iawn am yr hyn sydd yn cael ei gynnig fel mesurau lliniaru yn yr adroddiad asesiad iaith. Credaf na fydd mesurau fel sicrhau enwau Cymraeg ar lonydd a strydoedd y datblygiad yn gwneud dim i geisio atal dirywiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn y sir.

Rwyf hefyd yn bryderus nad oes bron ddim gwaith ymchwil wedi ei gwblhau gan Gyngor Sir Ddinbych er mwyn mesur yr angen lleol am dai a gwasanaethau yn ardal Bodelwyddan, ac felly yn grediniol mai cynllunio ar gyfer mewnlifiad a'r raddfa enfawr sydd yma mewn gwirionedd.

Mae dyletswydd ar Gyngor Sir Ddinbych i geisio diogelu’r Gymraeg yn y sir ac rwyf yn grediniol nad drwy dderbyn ceisiadau cynllunio anghynaladwy gan hapfasnachwyr o du allan i Gymru y mae gwneud hynny, ond drwy gynllunio manwl a gosod anghenion ein cymunedau yn ganolog i unrhyw ddatblygu.

Rwyf felly yn erbyn y cais cynllunio diangen hwn. Gofynnaf i gynghorwyr Cyngor Sir Ddinbych osod gofynion y bobol a'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu yn gyntaf, ac i wrthod y cais hwn yn ei gyfanrwydd.

Yn gywir

Eich manylion
Anfon y neges
Fe anfonir y neges hon i Adran Cynllunio Cyngor Sir Ddinbych