Sir Gâr-Penfro

Cadeirydd: Sioned Elin
Swyddog Maes: Bethan Williams
Rhif Ffôn: 01559 384378

Sir Gaerfyrddin

Yma yn Sir Gâr rydym yn byw yng nghysgod bwgan mawr sy'n bygwth dyfodol ein cymunedau Cymraeg a'n ffordd o fyw - ein Cyngor Sir. Yn groes i strategaeth honedig y Cyngor o "gynnal a hyrwyddo cymunedau Cymraeg", maent wrthi'n systematig yn lladd cymunedau Cymraeg y Sir.

  1. Maent wedi cau nifer o ysgolion pentrefol Cymraeg y Sir yn ystod y blynyddoedd ddiwethaf ac mae mwy ar y ffordd. Yn eu cyhoeddiad "Cynllun Trefniadaeth Ysgolion" maent yn bygwth ysgolion cynradd gyda llai na 90 o blant, sef bron pob ysgol gynradd Gymraeg yn y sir, gan ddweud mai ystyriaethau ariannol sydd bwysicaf. Cyhoeddodd Cymdeithas yr Iaith ein gwrth-bolisi sef dogfen Llwyddiant Ysgolion Pentref (PDF).
  2. Mae Cynllun Datblygu Unedol y Cyngor yn rhoi caniatad cynllunio i dros 12,000 o dai yn y Sir, fydd yn hwyluso mewnlifiad enfawr i'r Sir. Dyw'r ffigurau yma ddim wedi'u seilio ar unrhyw ymchwil i'r angen lleol am dai.
  3. Yn ogystal â herio'r Cyngor, rydym yn pwyso ar siopau yn nhrefi Sir Gâr i Gymreigio.
  4. Er mwyn rhoi cyfle i’r Gymraeg fyw, argymhellwn y pecyn canlynol o gamau. Gyda'i gilydd dyma Siarter Sir Gâr (PDF).

Mae gennym griwiau o bobl yn gweithio yn y meysydd uchod - ond mae mawr angen cymorth. Os alli di helpu trwy ffonio, llythyru, gosod posteri, gweithredu yna cysyllta, neu os wyt ti jyst moyn gwybod mwy.... cysyllta!

Cyfarfod Tynged yr Iaith yn Sir Gâr

Rydym yn chwilio am 100 o bobl i gadw llygad barcud ar waith Cyngor Sir Gâr, drwy ddilyn cyfarfodydd a darllen cofnodion a chyhoeddiadau'r cyngor, er mwyn sicrhau bod y cyngor yn cadw at y Strategaeth Iaith maen nhw wedi ei fabwysiadu ac yn gwneud cynydd.

Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru

Mae'r Ardd wedi torri ei gynllun iaith drwy godi arwydd uniaith Saesneg - Dyma lythyr mae Cymdeithas yr Iaith wedi ei ddanfon at yr ardd

 

Ymgynghoriad i Gyllideb Cyngor Sir Caeryrddin -

Wrth i'r cyngor sir ymgynhori ar ei gyllideb, gyda'r bwriad o dorri £10,000 ar wariant ar y Gymraeg, a thorri gwasanaethau fydd yn ei gwneud yn anoddach i bobl aros yn lleol dyma ymateb Cymdeithas yr Iaith. Mae croeso i ti ddefnyddio'r ymateb fel sail i dy ymateb di.

Mae ffurlfen i'w llenwi ar-lein: http://online.carmarthenshire.gov.uk/snap/CouncilBudget/Welsh/budget_con... neu mae posibl danfon e-bost at ymgynghori@sirgar.gov.uk

Ymateb Cymdeithas yr Iaith:

Mae Cymdeithas yr Iaith yn gwrthwynebu torri ar wasanaethau ar egwyddor, gan ei fod yn ganlyniad i hapfasnachu'r blynyddoedd a fu, ac yn gyffredinol yn cosbi ac yn amddifadu'r mwyaf anghenus a'r rhai nad sydd ar fai.

O edrych yn benodol ar rai toriadau, rydyn ni'n arbennig o bryderus y byddai torri ar gyllideb i'r Gymraeg. Mae'n gwbl groes i'r hyn mae argymhellion mae'r cyngor yn eu rhoi mewn lle yn dilyn adroddiad Gweithgor y Gymraeg, ac yn dal gyda'r arfer o osod y Gymraeg ar wahân yn hytrach na bod y Gymraeg yn rhan ganolog a naturiol o waith y cyngor.

Yr ateb i hyn yw i'r cyngor symud i weithio drwy'r Gymraeg. Ar hyn o bryd mae cyfieithu - yn gyfieithu ar y pryd neu ddogfennau ar gyfer gwaith yn waraiant ar y Gymraeg - ac yn gostus. O newid yn raddol i weithio drwy'r Gymraeg gallai'r cyngor gyfieithu i'r Saesneg yn ôl yr angen, er tegwch i staff di-Gymraeg.

Ar faterion penodol eraill nid yw'n glir a fydd swyddi'n cael eu colli o gau cyfleusterau hamdden a'r swyddfa arian parod Llandeilo na beth fyddai effaith ailstrwythuro mewn gwahanol adrannau ar staff.

Hefyd gallai trosglwyddo gwasanethau gofal 'hyd braich' olygu nad yw gwasanaeth ar gael yn Gymraeg bellach – byddai'n ddibynnol ar fudiad gwirfoddol neu gwmni sy'n gyfrifol. Er y gallai'r cyngor annog cwmniau i ddarparu gwasaneth Cymraeg ni fyddai sicrwydd o hynny.

Mae rhai o'r toriadau yn benodol fydd yn effeithio ar bobl sydd ddim mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant; y gwasanaeth lleferydd ac iaith mewn ysgolion uwchradd; y gyllid ar gyfer anghenion addysgol ychwanegol a darpariaeth pryd ar glud. Byddai torri ar gyllideb neu golli'r gwasanaethau hyn yn effeithio ar y mwyaf bregus ac yn golygu nad oes sicrwydd y byddai pobl yn gallu parhau i fyw ble maen nhw nawr.

Mae'r un peth yn wir am yr argymhellion i dorri ar y gwasanaeth llyfrgelloedd a'r posibilrwydd o gau rhai cyfleusterau hamedden.

Rydyn ni eisoes yn gweld nifer uchel o bobl ifanc yn gadael ein cymunedau, a hynny oedd un o'r prif reswm am y dirywiad a welwyd yn niferoedd y siaradwyr Cymraeg yn ôl canlyniadau'r Cyfrifiad diwethaf. Does dim disgwyl i bobl eisiau aros yn eu hardal leol os nad oes gwasanethau a darpariaeth cymdeithasol ar eu cyfer. Er nad oes disgwyl i'r cyngor eu darparu'n gyfangwbl, bydd torri ar wasanaethau yn golygu ei bod yn llai tebygol ybydd pobl eisiau ac yn gallu aros neu ddod nôl i fyw i'r ardal.

Rydyn ni'n derbyn bod lleihâd yng nghyllideb y cyngor, mae hynny'n wir i gynghorau ar draws Cymru felly rydyn ni'n gofyn i gynghorau edrych yn greadigol ar y ffyrdd y gallan nhw arbed arian a rhoi blaenoriaeth i anghenion cymunedau wrth gynllunio.

Cynllun Datblygu Lleol Sir Gaerfyrddin

Bydd cyfarfod llawn Cyngor Sir Gaerfyrddin yn trafod, ac yn penderfynu'n derfynol ar Gynllun Datblygu Lleol y Sir. Gan nad yw'r Cynllun ar sail angen lleol rydyn ni'n gwrthwynebu adeiladu dros 15,000 o dai. Rydyn ni wedi danfon neges at holl gynghorwyr sir. I ddanfon at dy gynghorydd defnyddia'r llythyr yma fel templed.

Mae manylion cynghorwyr sir a manylion y Cynllun Datblygu Lleol ar wefan y cyngor.

Cysyllta am fwy o wybodaeth – bethan@cymdeithas.org

Dwi eisiau byw yn Gymraeg yn Sir Gâr!

Yn dilyn parti ar faes yr Eisteddfod ein blaenoriaeth ni awr fydd cadw llygad ar Gyngor Sir Caerfyrddin i wneud yn siŵr eu bod yn gweithredu argymhellion Gweithgor y Gymraeg. Ym mis Ionawr byddwn ni'n cynnal cyfarfod 'Tynged yr Iaith yn Sir Gâr' ble bydd cyfle i bawb benderfynu a yw'r cyngor yn gwneud digon.

Ymgyrch i Gymreigio Busnesau Sir Gaerfyrddin

M&S - Ers iddyn nhw dynnu arwyddion Cymraeg i lawr a rhoi rhai uniaith Saesneg yn eu lle rydyn ni wedi bod yn galw ar Marks and Spencer am wasanaeth Cymraeg. Mwy yma

Aldi a Lidl - Mae mwy a mwy o bobl yn siopa yn Aldi a Lidl ond does dim Cymraeg yn eu siopau o gwbl - a braidd dim staff gyda nhw sydd yn siarad Cymraeg. Danfon neges atyn nhw i ddweud fod angen iddyn nhw wneud: Ffurflen ebostio Aldi a Ffurflen Ebostio Lidl

Cronfa Safiad Sir Gâr

Ydych chi'n fodlon cefnogi gwaith Cymdeithas yr Iaith yn Sir Gaerfyrddin dros y blynyddoedd nesaf? Yn wyneb argyfwng yr iaith a'r cymunedau Cymraeg yn Sir Gâr a amlygwyd yn ffigyrau'r Cyfrifiad (2011), fe benderfynon ni sefydlu "Cronfa Safiad Sir Gâr". Caiff pob ceiniog ei wario ar ymgyrchoedd i ddwyn pwysau ar y Cyngor a'r Llywodraeth i greu amodau i sicrhau dyfodol i'n cymunedau Cymraeg. Ffurflen Cronfa Safiad Sir Gâr (PDF)

Sir Benfro

Addysg

Ymgynghoriad Cyngor Sir Benfro i addysg Gymraeg yn y Sir

Mae Cyngor Sir Penfro yn trafod newidiadau i addysg yng nghanol a Gogledd Orllewin y sir, ac addysg Gymraeg, ar hyn o bryd - mwy o wybodaeth ar wefan y cyngor

Gall unrhyw un gyfrannu at yr ymgynghoriad fel unigolyn, mae ymateb Cymdeithas yr iaith i'w weld yma a chroeso i unrhyw un ddefnyddio rhannau ohono yn eu hymateb.
Mae ffurflen ymateb ar wefan y cyngor, neu gallwch e-bostio ymateb at educationconsultations@pembrokeshire.gov.uk

Roedd ymgynghoriad cychwynol yn Rhagfyr 2014, mae ymateb llawn Cymdeithas yr Iaith i'r ymgynghoriad i'w weld yma.

Cyngor Sir Benfro:

Rydyn ni'n galw ar y Cyngor i ddangos arweiniad o ran y Gymraeg drwy ddatgan mai Cymraeg yw iaith y Cyngor Sir a symud i weithio drwy'r Gymraeg.

Dangosodd y Cyngor Sir yn beth yw eu hagwedd tuag at y Gymraeg, gyda hysbyseb am swydd Gweithiwr Cymdeithasol yn cynnwys manylion sarhaus am y Gymraeg yn y sir. Dyma'r stori: http://cymdeithas.org/newyddion/beirniadu-hysbyseb-swydd-cyngor-sir-benfro

Beth yw dy brofiad di wrth gysylltu gydfa'r Cyngor Sir? Rydyn ni wedi derbyn nifer o sylwadau gan bobl sydd wedi cael trafferth cael gwasanaeth Cymraeg. Rhanna dy brofiad fan hyn

Byddwn ni'n tynnu sylw'r Cyngor Sir at sylwadau, ond yn eich annog o gysylltu gyda'r Cyngor Sir yn bersonol i godi unrhyw fater. Dyma fnaylion cysylltu y swyddogion perthnasol:

Rydyn ni wrthi yn llunio cyfres o alwadau penodol - rhai gall y cyngor ddechrau gweithredu arnyn nhw yn syth a rhai iddyn nhw weithio arnyn nhw dros amser. Mae'r rhestr o alwadau yn Siarter Penfro

 

 

Newyddion Rhanbarth Sir Gâr-Penfro

'Neb i'n hysbrydoli yn Sir Gâr' – ai dyna farn Prif Weithredwr Cyngor Sir Gaerfyrddin?
08/07/15
Prif Swyddog Cyngor yn galw ar roi terfyn ar y Gymraeg fel 'ail iaith'
27/06/15
Cymraeg yn hanfodol? Ddim mor hanfodol â'r Saesneg
15/06/15

Digwyddiadau Sir Gâr-Penfro

Cyfarfod Blynyddol rhanbarth Caerfyrddin

12/09/2015 - 10:30
Lleoliad i'w gadarnhau Byddwn ni'n penderfynu ar ein gwaith am y flwyddyn ac yn dewis cadeirydd, Is-gadeirydd, trysorydd ac ysgrifennydd. Bydd hyfforddiant cyfweliadau wasg, llunio...
mwy...

Cyfarfod Tynged yr Iaith Sir Gar - Iaith Gweinyddol y Cyngor

30/01/2016 - 10:30
Neuadd Llyfrgell tref Caerfyrddin Iaith Gweinyddol y cyngor fydd pwnc nesaf cyfarfod Tynged yr Iaith. Bydd Wendy Walters, Prif Weithredwr Cynorthwyol y Cyngor Sir gyda chyfrifoldeb am Ffocws...