Mae ymgyrchwyr iaith Gymraeg wedi rhybuddio y byddai cynlluniau i gau chweched dosbarth ysgolion yn Rhondda Cynon Taf yn "lladd y Gymraeg" yn y sir.
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi ysgrifennu at y Gweinidog Addysg ac AC Rhondda Leighton Andrews yn gofyn iddo wrthod opsiynau sydd wedi eu hargymell gan y cyngor i gau ysgolion a sefydlu colegau dwyieithog yn lle.
O dan y cynlluniau, caeiff y chweched dosbarth (blynyddoedd 12 a 13) yn ysgolion Y Cymer, Garth Olwg, Rhydywaun a Llanhari. Hefyd, rhybuddiodd y Gymdeithas am 'protestiadau cryf' yn erbyn y cynllun os nad yw'r cyngor a Llywodraeth Cymru yn newid eu meddwl.
Mae'n debyg mai ym Mhabell Lên yr Eisteddfod Genedlaethol y clywais i Hywel Teifi Edwards yn darlithio gyntaf a chredaf mai 'Baich y Beirdd ' oedd testun y ddarlith honno. Soniai am feirdd Oes Victoria yn ceisio byw yng nghanol Philistiaeth y cyfnod hwnnw. Rhwng cael eu dibrisio, ac oherwydd holl dylanwad gormesol yr Ymerodraeth Brydeinig arnynt does ryfedd i gynifer ohonynt droi at y ddiod gadarn am gysur. Ond roedd hi'n amlwg fod gan Hywel Teifi feddwl mawr ohonynt ac y byddai wedi mwynhau treulio amser yn eu cwmni.
Nodwedd o'r ddarlith honno oedd i'r cyflwynydd fynd ymlaen i siarad ymhell dros yr amser oedd wedi ei benodi ar ei gyfer. Dydw i ddim yn meddwl fod y gwrandawyr yn y Babell Lên yn poeni rhyw lawer am hyn ar y pryd. Roedd chwerthin uchel y gynulleidfa yn brawf o ddifyrrwch y ddarlith. A thros y blynyddoedd fe ddeuwn i ddeall nad oedd gormes amser yn un o'r pethau y byddai Hywel Teifi yn talu gormod o sylw iddo, yn enwedig pan oedd hi'n fater o areithio neu ddarlithio o flaen torf o bobl.
Erbyn i mi fynd i weithio i Abertawe roedd Hywel Teifi wedi cyhoeddi ei gyfrol fawr 'G?yl Gwalia' ar hanes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Oes Victoria. Fo, yn fwy na neb, drwy gyfrwng y llyfr hwn, a'i gyfrolau eraill, fyddai yn tynnu ein sylw at effaith andwyol Brad y Llyfrau Gleision arnom fel Cymry. Nid ei fod ef ei hun wedi dioddef yr un iot oddi wrth y taeogrwydd cynhenid Cymreig. Treuliodd oes gyfan yn taranau yn ei erbyn.
Yn Abertawe fe'i clywais yn darlithio mewn dosbarth nos unwaith. Credaf fod chwaer Gwenallt yn aelod o'i ddosbarth hwnnw a bu ei brawd yn ddylanwad mawr ar Hywel Teifi. Roedd y ddau yn perthyn i'w gilydd. Bu'n wael iawn, iawn tua'r cyfnod hwn a mawr oedd y gofid amdano. Roedd ei waeledd yn bwrw cysgod nid yn unig tros ardal Abertawe lle roedd yn gweithio, a'i gartref yn Llangennech, ond Cymru gyfan. Erbyn hynny roedd wedi bod yn ymgeisydd seneddol dros Blaid Cymru ddwywaith a gwasanaethai fel Cynghorydd Sir a'r Gyngor Sir Dyfed. Byddem yn lobio'r Cynghorau Sir yn aml yn y dyddiau hynny un a'i ar fater Corff Datblygu Addysg Gymraeg neu Ddeddf Eiddo. A chofiaf un o gyfieithwyr Cyngor Dyfed yn dweud wrthym gymaint oedd dylanwad Hywel Teifi ar y cynghorwyr eraill. Ef oedd yn rhoi arweiniad o ran siarad Cymraeg ar y Cyngor, ac yn hynny o beth yr oedd yn fwy cyfrifol na neb am ei Gymreigio.
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi talu teyrnged i Hywel Teifi Edwards, a fu farw ddoe, yn canmol ei gyfraniad enfawr at Gymru a'r iaith Gymraeg.
Fe ddywedodd Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg Menna Machreth:
"Credaf fod pawb yng Nghymru oedd yn rhannu'r un weledigaeth a'r un gwerthoedd a Hywel Teifi yn galaru heddiw, ond ar yr un pryd yn gwerthfawrogi ei gyfraniad aruthrol i fywyd y genedl."
"Bu ei gyfraniad i fywyd gwleidyddol a bywyd diwylliannol Cymru yn gwbl anhepgor. Fe fydd aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn gweld ei golli yn fawr iawn. Bu iddo siarad mewn nifer fawr o'n raliau a'n cyfarfodydd cyhoeddus."
"Y tro olaf iddo wneud hynny oedd ddiwedd Mai y tu allan i'r Cynulliad Cenedlaethol mewn rali oedd yn galw am yr hawl i Gymru gael y pwerau i greu Mesur Iaith cyflawn. Fel ar bob tro arall cawsom ganddo araith danbaid a chyrhaeddgar oedd yn ysbrydoliaeth fawr i'r dorf o'i flaen."